English

Treks Bunkhouse

+44 7796 172318 ebost facebook

Y Pethau Ymarferol

Access Statement

Ydyn ni ar agor drwy gydol y flwyddyn?

Bron iawn – rydyn ni’n hapus i’ch croesawu bob diwrnod o’r flwyddyn ar wahân i ddydd Nadolig. Gan mai busnes teuluol ydym ni, mae’n siŵr y byddwch yn deall ein bod yn hoff o gael un diwrnod i ffwrdd bob blwyddyn!

COVID-19

Rydym yn cadw at reolau a chanllawiau'r llywodraeth i sicrhau bod y byncws yn Covid Safe. Ffoniwch am ragor o wybodaeth.

A fydd lle i bawb?

Mae gennym bum llofft, sy’n golygu lle i gyfanswm o 13 o bobl.

Mae’r llofftydd yn cynnwys llofft fawr i 5, llofft i 3, 2 x llofft i 2, a llofft sengl i 1 person sydd â digon o le i ddefnyddio cadair olwyn, a system larwm tân clyweledol. Mae golau nos/darllen preifat i bob gwely, ac rydym yn darparu eich holl ddillad gwely. Gallwn hefyd ddarparu llieiniau cawod am ffi fechan.

Gallwch dwad eich cwn sydd yn ymddwyn yn dda

A fyddwch yn gyfforddus?

Mae gwres canolog i’ch cadw’n glyd drwy’r misoedd oer, cawodydd poeth, ystafelloedd newid ar wahân i ddynion a merched, ac ystafell sychu sy’n cynnwys storfa a thoiled sy’n addas i bobl anabl. Mae hefyd gennym gegin gymunol sy’n cynnwys yr offer llawn, a pheiriant golchi ac ardal sychu.

Yn dilyn diwrnod anturus o gerdded neu seiclo yn y mynyddoedd, neu o herio’r dŵr gwyn, gallwch edrych ymlaen at noson gynnes o ymlacio a bwyd da! Mae barbeciw y tu allan, a mannau eistedd... neu os nad oes awydd coginio arnoch ar ôl diwrnod caled o hwyl, mae gostyngiad ar gael ar brydau cartref blasus yn y Pengwern Arms, dafliad carreg i lawr y ffordd. (Maen nhw hefyd yn cynnig brecwast Cymreig llawn!)

Y fydd eich offer yn ddiogel?

Mae gennym siediau dan glo i gadw eich beiciau, canŵod, ac unrhyw offer mawr arall.

Beth am siopa bwyd, a’r dafarn agosaf?

Ychydig yn llai na milltir i ffwrdd, mae siop Pen y Bryn a thafarn y Pengwern Arms yn Ffestiniog. Gallwch gerdded yno i lawr allt mewn rhyw 10 munud (ychydig yn fwy ar y ffordd yn ôl, efallai!), neu ychydig funudau mewn car neu ar gefn beic. Neu ychydig yn bellach i fyny’r ffordd mae tref Blaenau Ffestiniog, lle mae caffis, bariau a gweithgareddau dan do – wedi’r cyfan, mae hi weithiau’n glawio yma yng ngogledd Cymru!

Sut mae cyrraedd yno?

Mae digon o drafnidiaeth gyhoeddus reolaidd yn yr ardal wledig hon o ogledd Cymru.

Ym Mlaenau Ffestiniog y mae’r orsaf drenau agosaf, sy’n cael ei gwasanaethu gan Drenau Arriva Cymru. Mae’r orsaf hon yn cysylltu â Llandudno, a’r brif reilffordd o Gaergybi i Lundain. Mae HYPERLINK "http://www.traveline.cymru/"Traveline Cymru yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol iawn. Os mai gyrru fyddwch chi, dyma fap defnyddiol iawn.

Cost / A oes lle ar gael?

Mae gwybodaeth am brisiau ac archebu ar gael ar Airbnb. Gweler ein tudalen archebu.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi, a chael rhannu ein gwybodaeth am yr ardal leol er mwyn ichi allu manteisio’n llawn ar wyliau hyfryd yn Mro Ffestiniog.

Croeso!